Deisebau yn apelio ar Lywodraeth Cymru i brynu plasty Pen y Bryn ar ran y genedl

Mae dwy ddeiseb wedi ymddangos ar y we yn ddiweddar yn apelio ar Lywodraeth Cymru i brynu plasty Pen y Bryn ar ran y genedl. Mae’r tybiaethau sydd wrth wraidd y deisebau hyn yn deillio o honiadau a datganiadau sydd wedi eu postio ar dudalen Facebook ‘Protect and Preserve Garth Celyn’ a gwefan gysylltiedig.
Mae nifer o’r honiadau hyn yn gamarweiniol ac angen eu hateb a’u cywiro, yn enwedig gan fod nifer o’r llofnodwyr yn dod o UDA ac felly’n anhebygol o fod yn ymwybodol fod adeiladau hanesyddol Cymreig yn cael eu gwarchod. Mae posib hefyd nad ydynt yn ymwybodol o waith archaeolegol diweddar yn Abergwyngregyn, a anwybyddwyd gan dudalen Facebook a gwefan ‘Protect and Preserve Garth Celyn’, sy’n taflu goleuni ar safle debygol llys y Tywysogion Cymreig.
1. Mae rhai wedi awgrymu fod Pen y Bryn dan fygythiad gan ddatblygu amhriodol. Nid yw hyn yn wir. Caiff y tŷ ei warchod gan y gyfraith, gan ei fod wedi’i restru fel adeilad Gradd II* http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/protection/buildconservation/?lang=en ar sail ei bwysigrwydd fel plasty Cymreig o’r 15fed-16eg ganrif. Byddai angen caniatad adeilad cofrestredig cyn gwneud unrhyw waith ar y strwythur neu unrhyw rannau mewnol. Yn achos y categori hwn o restru, byddai caniatad ond yn cael ei roi pe bai’r ymgeisydd yn medru profi na fyddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol y tŷ neu’r safle. Felly, nid oes unrhyw sail i honiadau fod datblygu amhriodol yn cael ei ganiatau ym Mhen y Bryn.
2. Ar dudalen Facebook ‘Protect and Preserve Garth Celyn’ ac yn y wasg gwneir cyfeiriad at ‘ŵr busnes o Bahrain’ yn prynu’r tir drws nesaf i Ben y Bryn (mae rhan ohono’n adeilad hynafol wedi ei restru ac felly wedi ei warchod). Mae hi’n bwysig egluro nad rhyw dirfeddiannwr dieithr gyda’r bwriad o ymelwa o’r tir yw’r gŵr hwn. Yn hytrach, mae o’n Brydeiniwr ac yn aelod poblogaidd a gweithgar o gymuned pentref Abergwyngregyn.
3. Mae’r rhesymeg y tu ôl i’r deisebau hyn yn seiliedig ar yr honiad mai Pen y Bryn yw lleoliad llys y Tywysogion Cymreig heb os nac onibai. Nid yw hyn yn wir. Mae’r dystiolaeth i gefnogi’r achos hwn yn seiliedig ar rhyw draddodiad a myth lleol ac ar ddehongliad dadleuol o enwau llefydd lleol; nid oes tystiolaeth archaeolegol i’w gefnogi. Serch hyn, mae tystiolaeth archaeolegol sylweddol yn bodoli i gefnogi’r awgrym mai lleoliad cyfagos ar ochr orllewinol Afon Aber oedd safle’r llys. Am adroddiad o’r cloddio fu ar y safle hwn yn 2010 a’r eitemau a ddarganfuwyd, ynghyd ag asesiad teg o’r dystiolaeth o blaid gwir safle llys Y Tywysogion Cymreig, cliciwch yma i fynd i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.

DOD O HYD I NI

Mae'r pentref ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ger cyffordd 13 o'r A55. Mae parcio am ddim ar gael ar waelod y pentref a pharcio am dâl yn nes at y rhaeadr.

CADWCH HYD AT DYDDIAD

Twitter           @Anafon_Hydro                                                         Facebook                         Ynni Anafon Energy Cyf

GWOBRAU