Yr Hen Felin

Wedi ei lleoli yng nghanol y pentref, hen felin flawd sydd wedi ei throi’n Ganolfan Gymunedol y pentref yw’r Hen Felin.

Defnyddir yr Ystafell Gymuned, ar lawr cyntaf yr adeilad, ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau lleol, clybiau a dosbarthiadau, ac mae hi hefyd ar gael i’w llogi’n gyffredinol ac i’w harchebu ar gyfer achlysuron preifat. Gellir cyrraedd yr ystafell olau, braf yma gyda lifft ac mae ganddi ei chegin ei hun. Mae modd i 60 o bobl eistedd yno ar ffurf theatr. Mae byrddau ar gael i’w gosod i fyny ar gyfer cyfarfodydd neu achlysuron. Mae taflunydd a sgrîn, chwaraewr DVD, system sain a bwrdd gwyn ar gael.

Os rydych yn cynlllunio cyflwyniad neu barti neu gyfarfod, ffoniwch 01248 689454 eu e-bostiwch info@abergwyngregyn.org.uk am fwy o wybodaeth.

Yn ogystal â’r Ystafell Gymuned, mae’r Hen Felin yn cynnwys caffi ar y llawr isaf ac ar y llawr uchaf mae dau fwrdd snwcer maint llawn a ddefnyddir gan y Clwb Snwcer lleol.