Y Cyngor Cymuned

Mae gan Gyngor Cymuned Abergwyngregyn saith cynghorydd a Chlerc i’r Cyngor sy’n gyflogedig. Mae’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn yn yr Ystafell Gymuned yn yr Hen Felin. Mae’r cyfarfodydd ar agor i ’r cyhoedd er na chaniateir i aelodau o’r cyhoedd siarad ar fater heb ganiatad y Cadeirydd.  Gall unrhyw un sy’n dymuno codi mater gysylltu â’r Cadeirydd, cynghorydd neu’r Clerc cyn y cyfarfod. Mae hysbysiad yn rhoi amser a lleoliad yn cael ei roi i fyny ar hysbysfwrdd y pentref cyn pob cyfarfod.

Mae’r Cyngor Cymuned yn derbyn archebiant bychan o’r dreth gyffredinol sy’n talu am gyflogi’r Clerc i’r Cyngor, ffioedd archwiliad, deunyddiau papur ac unrhyw wariant arall a gymeradwyir gan y Cyngor. Er enghraifft, mae’r Cyngor yn rhoi grant tuag at gost torri gwair yn y fynwent.

Etholir Cynghorywr Cymuned am gyfnod o dair blynedd. Os bydd unrhyw un yn ymadael rhwng etholiadau, gellir cyfethol rhywun i’r Cyngor yn eu lle. Gall unrhyw un sy’n byw o fewn terfynau’r Gymuned ymgeisio i fod yn gynghorydd, gyda rhai cyfyngiadau. Os derbynnir mwy na saith enw, gelwir a gweinyddir etholiad gan Gyngor Sir Gwynedd.

Cynrychiolir y Cyngor Cymuned ar bwyllgorau a sefydliadau lleol, gan gynnwys Cwmni Adfywio Abergwyngregyn Cyf., Pwyllgor Elusen yr Elusendai, Pwyllgor Traeth Lafan a Phartneriaeth Dyffryn Treftadaeth Aber. Mae ganddo bwerau cyfyngedig ond gall ddylanwadu ar gyrff sy’n llywio polisi. Er enghraifft, ymgynghorir ag ef gan Gyngor Sir Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar bob mater cynllunio o fewn ffiniau Plwyf Abergwyngregyn. Mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’n weithredol holl fentrau Cwmni Adfywio Abergwyngregyn a Phartneriaeth Dyffryn Treftadaeth Aber i wella ansawdd bywyd ar gyfer pawb sy’n byw yn y pentref, i gyfoethogi profiad ymwelwyr ac i ddiogelu treftadaeth a harddwch naturiol y dyffryn.