Y Pentref

Pentref bach hardd yw Abergwyngregyn sy’n swatio mewn dyffryn ar ymyl gogleddol mynyddoedd y Carneddau. Lleolir ef ar Gyffordd 13 o’r A55, rhwng Bangor a Llanfairfechan.  Gyda golygfeydd ar draws y Fenai tuag at Fiwmares, Penmon ac Ynys Seiriol, a’r daith ar droed at Raeadr Aber yn dechrau o’r pentref, mae o’n le hyfryd ar gyfer pobl leol ac ar gyfer y rhai sydd eisiau ymweld â’r rhan yma o arfordir Gogledd Cymru.

Mae gan Abergwyngregyn hanes hir a diddorol, ond mae o hefyd yn bentref sy’n ffynnu ac sydd yn edrych tua’r dyfodol yn ogystal a thua’r gorffennol. Mae Hydro Anafon, cynllun ynni hydro a osodwyd yno’n ddiweddar yn perthyn i’r gymuned leol sydd hefyd yn ei redeg, ac mae’n darparu ynni ar gyfer y grid cenedlaethol. Mae’r arian a enillir yn talu llog i’r rhanddeiliaid a hefyd i gynlluniau elusennol lleol.  Ewch i’r dudalen Dolenni am fwy o wybodaeth.