Ynni Anafon Energy

Cynllun Hydro Anafon yw’r fenter gymunedol ddiweddaraf yn Abergwyngregyn.  Mae dŵr o ddyffryn Anafon yn uchel ym mynyddoedd y Carneddau yn cael ei bibellu i lawr ochr y mynydd a’i ddefnyddio i bweru generadur cyn ei ddychwelyd i’r afon. Mae’r cynllun yn perthyn i ac yn cael ei reoli gan Ynni Anafon Energy Cyf, Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd i redeg y cynllun hydro cymunedol hwn.

Mae’r cynllun yn cynhyrchu dros 900 MWh o drydan yn flynyddol, digon i ddarparu trydan ar gyfer 230 aelwyd, a bydd yn gwrthbwyso mwy na 19,000 tunnell o ollyngiadau CO2 dros 40 mlynedd cyntaf ei oes. Amcangyfrifir y bydd incwm o’r cynllun tua £200,000 y flwyddyn, gyda’r elw defnyddiadwy’n cael ei ddefnyddio i ariannu cynlluniau elusennol yn Abergwyngregyn a’r ardal gyfagos. Gwelir manylion pellach am yr elusen a sefydlwyd i ddosbarthu’r elw hwn yn yr Adran isod ar Ddŵr Anafon.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar yr hydro ym Mai 2015 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Medi.  Cwblhawyd y gwaith o gomisiynu a chysylltu â’r Rhwydwaith Cenedlaethol erbyn diwedd Tachwedd a dechreuwyd cynhyrchu trydan ar Ragfyr 1af 2015, mis yn gynt na’r targed gwreiddiol.

Mae gwybodaeth bellach, a ffotograffau o’r adeiladu, ar gael ar wefan Ynni Anafon Energy. (cliciwch yma)