Abergwyngregyn

Mae Rhaeadr Aber, ym mhentref Abergwyngregyn, yn rhaeadr sy’n adnabyddus fel atyniad syfrdanol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Yma ym mhentref Aber rydym yn falch ein bod yn derbyn 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i gerdded i fyny at Raeadr Aber a thu hwnt i mewn i’r Carneddau.

Y Pentref

Pentref bychan hardd gyda hanes hir ac amrywiol yw Abergwyngregyn sy’n llechu mewn dyffryn ar ymyl gogleddol mynyddoedd y Carneddau.
Saif rhwng Bangor a Llanfairfechan ar Arfordir Gogledd Cymru, gyferbyn â Biwmares a saif yr ochr draw i’r Fenai.

Darllenwch fwy…

Hanes Lleol

Mae gan Ddyffryn Aber hanes sy’n ymestyn yn ôl dros o leiaf 4,000 o flynyddoedd.  Mae yma leoliad diwydiant cynnar a llys tywysogion brenhinol. Disgrifir rhywfaint o’r hanes hwnnw yn yr arddangosfa a welir yn Nhŷ Pwmp yn ymyl y fynedfa i’r pentref.

Darllenwch fwy…

Natur

Aber Falls and footbridge

Mae Rhaeadr Aber, a leolir yn y dyffryn uwchlaw pentref Abergwyngregyn, yn fangre ymwelwyr adnabyddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r rhaeadr drawiadol hon yn denu dros 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae hi’n boblogaidd gydol y flwyddyn.

Boed yn dro fach hamddenol ar hyd lan y môr neu’n daith gerdded heriol ym mynyddoedd y Carneddau, mae gan Aber rywbeth at ddant pawb sy’n dewis mynd am dro.

Darllenwch fwy…

Cymuned

Mae gan Abergwyngregyn hanes hir a diddorol, ond mae o hefyd yn bentref sy’n ffynnu ac sydd yn edrych tua’r dyfodol yn ogystal a thua’r gorffennol. Mae Hydro Anafon, cynllun ynni hydro a osodwyd yno’n ddiweddar yn perthyn i’r gymuned leol sydd hefyd yn ei redeg, ac mae’n darparu ynni ar gyfer y grid cenedlaethol. Mae’r arian a enillir yn talu llog i’r rhanddeiliaid a hefyd i gynlluniau elusennol lleol.

Darllenwch fwy…

Meysydd parcio

Mae yna ddewis o feysydd parcio ar gyfer ymwelwyr:

Darllenwch fwy…