ARC

Pwy ydym ni:

Meneter gymdeithasol yw Cwmni Adfywio Abergwyngregyn Regeneration Company (ARC) a Chwmni a Gyfyngir gan Warant. Rhedir y Cwmni gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol wedi ei ffurfio o bobl o’r pentref neu unigolion eraill o ardaloedd cyfagos sydd â chysylltiadau agos â’r pentref. Bu ARC yn weithredol yn y pentref ers 2002, yn hybu lles y gymuned a datblygiad cymunedol cynaliadwy. Ailfuddsoddir pob elw yn y gymuned.

Beth a wnawn:

Dyma rai o’r cynlluniau cymunedol mae ARC wedi ymgymryd â nhw ers ei sylfaenu:

  • Adnewyddu’r Hen Felin. Adeilad carreg mawr yng ngahnol y pentref yw’r Hen Felin. Gan ddefnyddio cyllid grant gyda chyfanswm o tua   £470,000, prynwyd Yr Hen Felin a’i hadnewyddu ac mae hi’n awr yn darparu adnodd cymunedol sy’n cynnwys ystafell gyfarfod/achlysur, caffi a chlwb snwcer. Mae ARC yn parhau i reoli’r Hen Felin, a agorwyd ym Mawrth 2006 gan Mrs Betty Williams AS.
  • Adnewyddu Tŷ Pwmp. Tŷ pwmpio bychan yw Tŷ Pwmp wedi ei leoli ger y fynedfa i’r pentref.  Defnyddiwyd cyllid grant o tua £24,000 i brynu ac adnewyddu’r adeilad, sydd bellach yn cynnwys safle wybodaeth fechan ar gyfer ymwelwyr, canolfan dreftadaeth a thoiled ar gyfer ymwelwyr â Dyffryn Aber.
  • Datblygu maes parcio wrth y fynedfa i’r pentref i ddarparu parcio am ddim ar gyfer ymwelwyr.
  • Cymryd rhan yng Nghynllun Tywysogion Gwynedd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Abergwyngregyn fel safle llys y Tywysogion Cymreig.
  • Gosod maes parcio Bontnewydd.  Mae’r maes parcio hwn yn gwasanaethu Rhaeadr Aber a’r Warchodfa Natur Genedlaethol a gosodir ef i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am rent bychan. Y mesurydd ‘Talu ac Arddangos’ yno yw prif ffynhonnell incwm ARC ar hyn o bryd.
  • Gweithredu’r maes parcio’r Goedwigaeth sydd hefyd yn gwasanaethu Rhaeadr Aber a’r dyffryn. Gwneir hyn trwy gytundeb rheolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
  • Am y cynlluniau hyn, cyflwynwyd i ARC Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2011.