Rhaeadr Aber

Mae Rhaeadr Aber, a leolir yn y dyffryn uwchlaw pentref Abergwyngregyn, yn fangre ymwelwyr adnabyddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r rhaeadr drawiadol hon yn denu dros 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae hi’n boblogaidd gydol y flwyddyn. Mae’r llwybr graddol i fyny’r allt at y rhaeadr tua 1½ milltir o hyd ac yn hygyrch i rai mewn cadeiriau olwyn neu gyda choets-gadair. Mae digonedd o lefydd ar hyd y ffordd ar gyfer aros i werthfawrogi’r olygfa neu fwynhau picnic. Hanner ffordd i fyny, mae yna ganolfan wybodaeth yn disgrifio rhywfaint o hanes y dyffryn.

Mae yna ddewis o feysydd parcio ar gyfer ymwelwyr:

Mae meysydd parcio Bontnewydd a’r Goedwigaeth yn costio £5 y diwrnod ac maent tua ½ mile tu hwnt i’r pentref.  Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol fod nifer gyfyngedig o lefydd parcio ar gael ac fod y lôn at y mesydd parcio hyn yn un trac sengl gydag ond ambell fan goddiweddyd. Ar adegau prysur gall hyn arwain at oediad rhwystredig cyn dechrau mynd am dro.

Mae parcio amgen ar gael am ddim yn y maes parcio di-dâl yng ngwaelod y pentref. Gall ymwelwyr sy’n dewis cerdded at y rhaeadr o’r fan hon ddewis oedi ar eu ffordd drwy’r pentref yn y safle wybodaeth yn Nhŷ Pwmp, sy’n cynnwys arddangosfa hanesyddol, neu yn un o’r ddau gaffi, i roi ynni iddynt ar gyfer y filltir ychwanegol fydd ganddynt i’w gerdded i gyrraedd y rhaeadr. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn dymuno gyrru, mae gwasanaeth fysiau dda gan y pentref i deithio rhwng Bangor a Llandudno.