Taith 1. Taith ar hyd glan y môr: Aber i Lanfairfechan

Mae’r daith yma’n apelio’n arbennig at wylwyr adar gan ei bod yn mynd yn agos at Draeth Lafan lle gwelir amrywiaeth o adar hirgoes yn bwydo rhwng llanw a thrai. (Mae Tablau’r Llanw yn aml ar gael o siopau papur newydd ac ar-lein)

Wrth ddod o gyfeiriad Bangor, trowch oddi ar yr A55 wrth arwydd y pentref (Cyffordd 13), a dilynwch yr arwyddion sy’n dweud Gwarchodfa Natur. Wrth lan y môr mae maes parcio yn agos at fan cychwyn y daith.

Os dewch chi o gyfeiriad Conwy, trowch oddi ar yr A55 wrth arwydd y pentref a throwch i’r dde bron yn syth gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Conwy; mae’r ffordd yn mynd o dan yr A55 a phan mae’n cyrraedd cyffordd-T, trowch i’r dde gan ddilyn arwyddion y Warchodfa Natur ac ewch yn eich blaenau at y maes parcio ar lan y môr.

Ymunwch â llwybr yr arfordir tua’r dwyrain i gyfeiriad Llanfairfechan, gyda’r môr ar y chwith i chi.

Mae’r daith ar y gwastad ac yn hawdd, a cheir cyfleoedd gwych i wylio adar, yn ogystal â golygfeydd hyfryd; at ei gilydd, mae’r llwybr wedi ei gynnal yn foddhaol ac yn dwyn arwyddion Llwybr Arfordir Gogledd Cymru.

Mae’r adran olaf ar bromenâd Llanfairfechan, lle mae dau gaffi’n agos at y maes parcio. Dychwelwch yr un ffordd neu cerddwch i’r dref ac at y brif ffordd lle gallwch ddal bws rhif 5 yn ôl i Aber.